Yn 2022 cafodd TGP Cymru eu contractio gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i brofiadau pobl ifanc sy’n trosglwyddo o wasanaethau iechyd meddwl i blant i wasanaethau iechyd meddwl i oedolion (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Glasoed [CAMHS] i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion [AMHS]). Fe wnaeth hyn gynnwys yr holl bobl ifanc a oedd yn mynd trwy’r broses bontio, y rhai oedd wedi bod trwy’r broses a’r bobl ifanc a oedd wedi ceisio symud i wasanaethau i oedolion ond nad oedden nhw wedi bodloni’r meini prawf difrifoldeb neu gyflwr iechyd meddwl.
Mae’r adroddiad hwn yn adrodd eu stori yn eu geiriau eu hunain. Mae’n nodi’r materion a wynebwyd, ond hefyd beth fydden nhw’n hoffi ei weld yn digwydd i helpu’r broses hon i fod yn fwy effeithiol wrth helpu pobl ifanc i symud ymlaen.
Mae’r adroddiad wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru sy’n adolygu eu gwasanaethau pontio ar hyn o bryd mewn ymateb iddo.
Crynodeb ‘Lleisiau pobl ifanc’ >
Adroddiad ‘Lleisiau pobl ifanc’ >