Mae TGP Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd bregus, ar draws Cymru am 22 mlynedd.
Darparwn Wasanaethau Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol i blant a rhieni mewn tri ar ddeg o ardaloedd awdurdodau lleol Cymru.
Rydym yn recriwtio Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol.
EIRIOLWR RHIANT PROFFESIYNOL ANNIBYNNOL £27,000 per annum yn gorchuddio Cwm Taf Morgannwg Rhan amser 15 awr
Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod â diddordeb mewn hawliau blant, profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phlant and phobol ifanc, a chyda dealltwriaeth dda o systemau a phrosesau gwasanaethau cymdeithasol.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd allu dangos gwerthoedd TGP Cymru. Mae gwerthoedd yn bwysig i ni, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n credu yn ein gwerthoedd gymaint ag yr ydym ni.
Os hoffech chi fod yn rhan o dîm sydd wedi ymrwymo i wella deilliannau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, ac yn awyddus i weithio i sefydliad blaengar, gwnewch gais.
Am ragor o fanylion ac am sgwrs anffurfiol, cysyllter â Zoe Morgan ar 07572755130 neu e-bostiwch [email protected] |
Y DYDDIAD CAU ar gyfer cyflwyno ffurflenni cais: 12 o gloch, 6/5/25. DYDDIAD Y CYFWELIAD: 19/5/25 |
Croesewir ceisiadau gan bobl o bob rhan o’r gymuned waeth beth fo’u hoedran, anabledd neu hil. Mae TGP Cymru yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Pecyn cais o www.tgpcymru.org.uk, e-bost: [email protected] neu ffoniwch: 029 2039 6974. Noder bod TGP Cymru fel arfer yn penodi ar gychwyn y raddfa cyflog. |