Mae tîm Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu Gweithredu Adferol wedi cael canmoliaeth yn ddiweddar ar ôl galw am adborth ar eu gwasanaeth. Roedd pobl a gymerodd ran yng nghyfarfodydd y grŵp yn awyddus i rannu’r profiadau da y maen nhw wedi ei gael gyda’r gwasanaeth, a’r canlyniadau cadarnhaol o ganlyniad i hynny.
Daw hyn wrth i’r tîm Dulliau Adferol Gwasanaeth Cyn-filwyr a Theuluoedd, sy’n defnyddio’r un fframwaith dulliau adferol a ddefnyddir gan dîm Cyfarfod y Grŵp Teulu, gael canmoliaeth gan Nation.Cymru a Forces in Mind Trust am eu gallu i adfer perthnasoedd teuluol i gyn-filwyr ag anhwylder iechyd meddwl.
Mae TGP Cymru wrth eu bodd â’r holl adborth y mae’r ddau dîm wedi’i gael yn ddiweddar. I ddangos ein gwerthfawrogiad o’r tîm Cyfarfod Grŵp Teulu, rydym wedi casglu rhai o’r dyfyniadau gorau o’u harolwg diweddar:
“Diolch yn fawr i chi am eich gwaith yn y cyfarfod teuluol wythnos diwethaf, roedd y profiad cyfan yn ddefnyddiol iawn i’r ddau ohonom ac roeddem yn cytuno ei fod yn hen bryd.” – Gofalwyr maeth Pen-y-bont ar Ogwr
“Rwy’n ei chael hi’n hawdd iawn siarad â chi, rydych chi’n ddigyffro iawn ac rwy’n dweud pethau wrthych chi nad ydw i yn siarad amdanyn nhw ag unrhyw un. Rwyf wedi bod yn ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ers 12 mlynedd a dyma’r tro cyntaf i mi deimlo y gallaf siarad.” – Tad yn Rhondda Cynon Taf
“Roedd y cyfarfod teuluol yn fuddiol iawn i mi gan fod yn rhaid i bob un ohonom ni siarad a bod yn onest am ein meddyliau a’n teimladau. Roeddem i gyd yn hapus gyda’r canlyniadau terfynol. Diolch yn fawr am eich holl help. Edrych ymlaen at y cyfarfod nesaf.” – Aelod o deulu Pen-y-bont ar Ogwr