Rydym wedi cael ein dewis fel un o dair elusen sydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobr ‘Hyrwyddwr Amrywiaeth’ yng Ngwobrau Elusennau Cymru, a gynhelir gan CGGC.
Mae’r wobr, a noddir gan Hugh James, yn cael ei ddyfarnu i’r sefydliad neu’r grŵp sydd wedi gwneud ‘ymdrechion eithriadol i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu cymuned’. Ar eu gwefan dywed CGGC eu bod am ‘gydnabod a dathlu’r rhai sydd wedi gweithio’n ddiflino i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chroesawgar i bob aelod o gymdeithas, ni waeth beth fo’u hil, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, anabledd neu gefndir’.
Mae TGP Cymru wedi cyrraedd y rownd derfynol ochr yn ochr â Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod a Môn CF. Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 11 Hydref 2023.
Rydym yn falch iawn o gael ein cydnabod am yr amgylchedd cynhwysol rydym yn ei feithrin.
Diolch CGGC!