Lansiwyd y Gwasanaeth Atal Unigrwydd COVID-19 gan Dîm o Amgylch y Denantiaeth TGP Cymru ar 7 Ebrill 2020 ar ôl sicrhau cyllid o £5,000 gan Crisis UK.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu ar draws y gogledd ar gyfer pobl ifanc 18-25 oed â phrofiad o dderbyn gofal.
Mae cyllid Crisis UK yn cael ei ddefnyddio i brynu ffonau symudol, cyfrifiaduron llechen a thalebau Netflix i’r bobl ifanc. Ar ôl i’r bobl ifanc dderbyn yr eitemau, bydd y tîm yn eu helpu i sefydlu unrhyw apiau perthnasol sydd eu hangen i sicrhau y gallant gael gafael ar eu rhwydwaith cymorth. Bydd y tîm yn cysylltu â’r bobl ifanc bob wythnos o leiaf i sicrhau bod ganddyn nhw’r holl bethau sylfaenol sydd eu hangen arnyn nhw fel bwyd, pethau ymolchi ac arian. Os bydd ganddyn nhw angen, bydd y tîm yn helpu’r bobl ifanc i gysylltu â sefydliadau neu os nad yw hyn yn bosibl neu os byddant yn cael anawsterau, bydd y tîm yn eirioli ar eu rhan.
Llwyddwyd hefyd i sicrhau £16,600 gan Sefydliad Steve Morgan, a fydd yn ariannu camau i hwyluso prosiectau, pecynnau ar gyfer sesiynau celf a choginio ar-lein i hyd at 150 o bobl ifanc, ac i gefnogi darpariaeth cymhwyster Agored Cymru.