Arhoswch adref, arhoswch yn ddiogel ac yfwch de gyda TGP!

Jun 4, 2020

Mae gan Fwrdd Diogelu Iau Ceredigion (Sêr Diogel) neges arall i chi i gyd…

“Arhoswch adref, arhoswch yn ddiogel ac yfwch de gyda TGP!”

Roedd y Sêr Diogel eisiau ffordd i ail-gysylltu’r bobl sydd wedi cefnogi eu grŵp trwy godi cwpan TGP ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cadw’n ddiogel yn yr amseroedd anodd hyn. Roeddent yn meddwl mai’r ffordd orau o ddod â phobl ynghyd oedd rhannu paned braf gyda’i gilydd. . . . . yn rhithwir ☺ 

Cytunodd pobl ifanc, gweithwyr proffesiynol a chefnogwyr Sêr Diogel Ceredigion i gyd i godi cwpan TGP Cymru yn eu ffordd unigryw eu hunain. Hoffai’r grŵp ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran. Rhaid diolch yn arbennig hefyd i Dave Bound a olygodd y ffilm a Mark Jefferis a ysgrifennodd a pherfformiodd y gân.  

Felly beth am ymuno â ni i godi cwpan, sut ydych chi’n gwneud un chi? Mwynhewch ein ffilm a pheidiwch ag anghofio ein neges…  Arhoswch adref, arhoswch yn ddiogel ac yfwch de gyda TGP! Iechyd da ☺

Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion