Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelu 2020, roedd Sêr Diogel Ceredigion eisiau codi ymwybyddiaeth o iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae’r Sêr Diogel wedi llunio cynllunydd wal ar-lein, sy’n cynnwys dyddiadau pwysig yn ystod 2021. Mae’r cynlluniwr wal hwn hefyd yn cynnwys lluniau a dynnwyd gan bobl ifanc sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau dros y cyfnod clo. Yn arbennig, roedd y bobl ifanc wedi mwynhau tynnu lluniau o’u hoff deithiau cerdded, golygfeydd, anifeiliaid a bywyd gwyllt gan eu bod yn teimlo bod y rhain, yn arbennig wedi bod o fudd i’w hiechyd a’u lles, yn ystod yr amseroedd rhyfedd hyn! Felly beth am argraffu un allan a’i rhoi ar eich wal ar gyfer y flwyddyn nesaf ☺
Os oes gennych unrhyw ffotograffau yr hoffech eu rhannu mae croeso i chi gysylltu â ni. . . . . mae wir yn helpu i ddathlu’r atgofion gwych hynny ☺
Bydd Sêr Diogel Ceredigion yn lansio Calendr Sêr Diogel TGP 2021 llawn yn fuan iawn, felly gwyliwch y gofod hwn i gael mwy o luniau anhygoel ☺