Rhoddwyd rhodd hael gan y Veterans’ Foundation er budd y Tîm Gwasanaethau Cyn-filwyr a’u Teuluoedd

Apr 27, 2023

Mae TGP Cymru yn ddiolchgar am gyfraniad sylweddol y Veterans’ Foundation i gefnogi ein Tîm Gwasanaethau Cyn-filwyr a’u Teuluoedd.

Mae ein tîm Gwasanaethau Cyn-filwyr a’u Teuluoedd yn gweithio’n ddiflino i gryfhau cydberthnasau teuluol i gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles pob aelod o’r teulu. Gyda chefnogaeth y Veterans’ Foundation, gallwn barhau â’r gwasanaeth hwn sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau llawer.

Ffurfiwyd y Veterans’ Foundation yn 2016 ac yn fuan daeth yn un o’r elusennau milwrol sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, ac mae ei gwaith yn cynorthwyo cannoedd o sefydliadau elusennol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae TGP Cymru yn un o dros 370 o sefydliadau unigryw y mae’r Veterans’ Foundation wedi eu cefnogi ers ei sefydlu.

Rydym yn diolch o galon i’r Veterans’ Foundation, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gyn-filwyr a’u teuluoedd.

Diolch yn fawr, Veterans’ Foundation.