Ym mis Ebrill, derbyniodd TGP Cymru rodd elusennol hael iawn gan gasgliad o ffermydd gwynt Gogledd Cymru: Ffermydd Gwynt Gwastadeddau’r Rhyl, Gwynt y Môr, a Chlocaenog.
Bydd yr arian yn mynd tuag at Wasanaeth Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion cyfathrebu drwy roi pasbort cyfathrebu iddyn nhw; dogfen sy’n nodi gwybodaeth adnabod y mae plant a phobl ifanc yn ei defnyddio i gyflwyno eu hunain i eraill ac i rannu gwybodaeth allweddol amdanyn nhw eu hunain. Mae’r tîm yn creu ac yn gwneud pob pasbort yn bersonol sy’n aml yn dod yn arf hanfodol i gefnogi gallu’r plentyn neu’r person ifanc i gyfathrebu.
Dysgwch fwy am ein tîm Pasbort Cyfathrebu Gogledd Cymru >
RWE sy’n berchen ar gyfran fwyafrif o’r tair fferm wynt, ac mae deiliaid cyfranddaliad lleiafrifol eraill yn cynnwys Green Investment Group, Greencoat UK Wind, Stadtwerke München, Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU a Siemens. Y fferm wynt fwyaf yw Gwynt y Môr gyda chapasiti cynhyrchu uchaf o 576MW. Ar adeg ei hagor, hon oedd ail fferm wynt alltraeth fwyaf y byd. Fe’i lleolir yn nwyrain Môr Iwerddon, yn ardal Bae Lerpwl. Hefyd yn yr ardal honno mae Gwastadeddau’r Rhyl, fferm wynt sy’n cynnwys 25 o dyrbinau gwynt, bob un yn cynhyrchu 3.6MW, sy’n ddigon i bweru 50,000 o gartrefi. Ffermydd Gwynt Clocaenog yw’r mwyaf newydd o’r tair ar ôl dechrau gweithredu ym mis Hydref 2019, ac mae’n unigryw o’r tair gan mai hi yw’r unig fferm wynt ar y tir, wedi’i lleoli yng Nghoedwig Clocaenog. Mae ei maint yn fras yn debyg i Wastadeddau’r Rhyl.
Diolch i Ffermydd Gwynt Gwastadeddau’r Rhyl, Gwynt y Môr, a Chlocaenog!