Ymddiriedolwyr

Emma Marshman – Cadeirydd

Penodwyd yn Ymddiriedolwr yn 2012

Ar hyn o bryd, Emma yw’r Rheolwr Academaidd Rhaglenni BA a Rhaglenni Meistr Hysbysebu, Graffeg, Darlunio, Ffilm a Theledu, Dylunio Set a Chynllunio Mewnol yn Ysgol Ddylunio a Chyfathrebu, Prifysgol De Cymru.

Graddiodd Emma o Brifysgolion UWIC, Casnewydd a De Montfort. Dechreuodd ei gyrfa greadigol yng Nghaerdydd a Llundain ac ar ôl dychwelyd i Gymru astudiodd i fod yn athrawes ysgol uwchradd gan weithio mewn ysgolion yng Nghaerdydd a’r cyffiniau cyn symud ymlaen i Addysg bellach ac yna Addysg Uwch.

Mae Emma wedi datblygu cysylltiadau cryf gyda sefydliadau fel TGP Cymru er mwyn galluogi ei myfyrwyr i ennill profiad yn ystod eu cwrs gradd gan roi’r cyfle i’w myfyrwyr roi rhywbeth yn ôl ar yr un pryd.

Yn ogystal ag addysgu, mae Emma wedi gweithio gyda grwpiau o fyfyrwyr ar brosiectau cymunedol ac wedi ymwneud yn helaeth â gwaith ieuenctid a hynny fel arweinydd ieuenctid a thrwy gynnal cynlluniau chwarae yn yr haf. Mae cyfranogiad pobl ifanc yn bwysig iawn i Emma. Mae Emma yn canu’r piano a’r delyn, mae hi hefyd yn mwynhau bod yn greadigol yn ei hamser rhydd ac mae hi’n frwd iawn ynglŷn â chadw gwenyn. Mae Emma yn hoffi defnyddio ei gwybodaeth i ysbrydoli eraill.

Angharad Price – Is-gadeirydd

Penodwyd yn Ymddiriedolwr yn 2013

Mae Angharad Price yn fargyfreithiwr cyflogedig sy’n gweithio i Adran Gyfreithiol Llywodraeth y DU ac yn byw yn Ninas Powys. Cafodd ei galw i’r bar yn y Deml Ganol ar 22 Gorffennaf 2004. Fel cyfreithiwr yn y sector cyhoeddus, mae ei gwaith yn amrywiol.

Roedd hi’n arfer bod yn Gynghorydd Grantiau i Ymddiriedolaeth Carnegie UK, un o’r sefydliadau elusennol mwyaf yn y DU, a oedd yn cynnwys bod yn rhan o’r pwyllgor sy’n penderfynu pa sefydliadau pobl ifanc y dylid rhoi arian iddynt i gynnal prosiectau arloesol.

Yn 2013, dyfarnwyd teilyngdod iddi am ei LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol gan Brifysgol Caerdydd ar ôl ysgrifennu traethawd hir ar wahaniaethu ar sail anabledd ac addasiadau rhesymol. Mae hi’n astudio ar gyfer doethuriaeth broffesiynol ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.

Rhoddodd enedigaeth i’w gefeilliaid, Tomos a Ffion ym mis Tachwedd 2016 ac mae’n astudio Cymraeg ar hyn o bryd er mwyn gallu ei throsglwyddo iddynt.

Carwyn Griffiths – Trysorydd

Carwyn Griffiths

Wedi’i phenodi fel Trysorydd 2022

Helo, fy enw i yw Carwyn Griffiths. Rwy’n Rheolwr Cyllid yng nghymdeithas tai Wales and West, un o ddarparwyr mwyaf tai cymdeithasol yng Nghymru. Rwy’n falch iawn o allu helpu fel trysorydd yn TGP sy’n ychwanegol at fy rôl fel ymddiriedolwr mewn cymdeithas tai yng ngorllewin Lloegr yn ogystal ag i St John Ambulance Cymru. Pan nad wyf yn cerdded y ci, Griff Griffiths, rwy’n hoff iawn o ddarllen ac rwy’n cefnogi Manchester United ac wrth fy modd yn mynd i’r stadiwm i wylio Cymru yn chwarae rygbi.

Tania Ansell – Ymddiriedolwraig

Tania Ansell

Wedi’i phenodi fel Ymddiriedolwraig 2022

Mae gan Tania Ansell gyfoeth o brofiad o weithio yn y trydydd sector am dros 10 mlynedd, mewn hosbis leol i ddechrau ac yn fwy diweddar fel rheolwr ymgysylltu codi arian i elusen genedlaethol yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd â chanser.

Arferai Tania weithio yn y GIG fel ysgrifennydd meddygol yn cefnogi adran lawfeddygol brysur a chyd-gysylltu llwythi gwaith meddygon ymgynghorol bob dydd.

Mae Tania yn mwynhau ei gwaith yn fawr ac wrth ei bodd yn gwneud gwahaniaeth. Mae hi bellach yn gweithio yn uniongyrchol gyda theuluoedd a phobl ifanc i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r gefnogaeth ariannol, emosiynol a chyfannol sydd ei hangen arnynt. Mae hi’n helpu i ffurfio perthynas gref rhwng yr elusen a’r defnyddiwr gwasanaeth. Mae Tania yn annog ac yn cefnogi pobl sydd eisiau codi arian ac yn dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o sicrhau bod rhoddwyr yn ymgysylltu.

Mae hi wedi cwblhau ei thystysgrif mewn codi arian drwy’r Sefydliad Codi Arian Siartredig.

Gadawodd Tania y system gofal yn 1998 ac mae ei hangerdd, ei hempathi a’i phrofiad yn gyfraniad gwerthfawr i’w rôl fel ymddiriedolwr. Mae hi eisiau helpu teuluoedd TGP Cymru i fod â llais a bod yn gadarnhaol ynghylch bywyd wrth ddilyn eu llwybr drwy’r system.

Mae gan Tania ferch 6 oed ac mae’n byw gyda’i gŵr a 2 gath yng Nghaerdydd. Mae hi’n mwynhau mynd i’r sinema, mynd ar wyliau teuluol a threulio penwythnosau clyd gartref.

Abyd Quinn-Aziz – Ymddiriedolwr

Abyd Quinn-Aziz

Wedi’i phenodi fel Ymddiriedolwraig 2023

Mae Abyd yn Ddarllenydd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi gweithio yno am 20 mlynedd. Cyn hyn, bu’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, datblygu rheolwyr ac fel gweithiwr cymdeithasol am dros 25 mlynedd. Yn ei swydd ymarfer ddiwethaf, sefydlodd Abyd y prosiectau Cynadleddau Grwpiau Teulu cyntaf yn ne Cymru a chadeiriodd Gynadleddau Amddiffyn Plant. Mae’n aelod o bwyllgor BASW Cymru, grŵp llywio Race Alliance Wales ac mae ar fwrdd Islam Centre UK. Mae ganddo ddiddordeb ymchwil mewn cynadleddau grwpiau teuluol ac mewn gwrth-hiliaeth ac yn ddiweddar cyd-olygodd ‘Social Work in Wales’ a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023. Mae’n ‘Ismaili o Ddwyrain Affrica’ ac yn hoff o gerddoriaeth y byd, pêl-droed a ffotograffiaeth.