Mae gan Sêr Saff Ceredigion lawer ar y gweill ar hyn o bryd a mwy wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Dyma fanylion eu holl weithgareddau ar hyn o bryd:
Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion wedi creu nifer o ryseitiau syml ac iach i blant a phobl ifanc. Bydd y rhain yn cael eu dosbarthu fel rhan o’r pecynnau Ie- chyd a Lles Sêr Saff ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae’r Sêr Saff wedi bod yn cefnogi CYSUR (Uwch Fwrdd Diogelu Rhanbarthol) ac yn mewnbynnu eu syniadau i sut y bydd Hyfforddiant Diogelu i Oedolion yn cael ei ddarparu.
Mae calendr 2022 y Bwrdd Iau yn barod i’w ddosbarthu i blant a phobl ifanc Ceredigion, bydd hyn yn cael ei gynnwys fel rhan o’u pecynnau iechyd a lles.
Bydd calendr Swyddogol 2022 y Sêr Saff, ryseitiau iach, gwybodaeth am ddio- gelu a chefnogaeth i blant a phobl ifanc i gyd yn cael eu cynnwys yn y pecyn hwn i hyrwyddo lles.
Mae’r Sêr Saff yn y broses o greu animeiddiad ar gyfer ysgolion a chymunedau lleol. Eu nod yw cyflwyno’r prosiect hwn y flwyddyn nesaf trwy nifer o ysgolion a chymunedau yng Ngheredigion.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Sêr Saff gallwch eu dilyn ar eu cyfryngau cymdeithasol:
Facebook https://www.facebook.com/SerSaffSafeStars/
Instagram https://www.instagram.com/thesafestars/
Sianel YouTube https://www.youtube.com/channel/UC9JaekGJVBVGFxBSzCZnLJg
Gwefan https://www.tgpcymru.org.uk/what-we-do/ceredigion-safe-stars/