Fe wnaeth noson gwis diweddar a gynhaliwyd gan dîm Canolbarth a Gorllewin Cymru yn nhafarn y Llong a’r Castell, Aberystwyth godi dros £300.
Fe wnaeth 10 o dimau gofrestru, gyda Brendan Somers fel Cwis Feistr. Diolch i bawb wnaeth fynychu a’n helpu mewn cymaint o ffyrdd.
Rhoddwyd gwobrau i’r raffl gan Westy Cardigan Bay Aberystwyth, Consti from Constitution Hill, Canolfan Hamdden PlasGrug, Chip Box Penparcau, Just Jack Fitness a bwyty Baravin felly diolch enfawr iddyn nhw hefyd. Noson dda iawn a llongyfarchiadau i’r tîm buddugol.