Mae TGP Cymru yn cymryd rhan yng nghynllun Kickstart Llywodraeth y DU. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu 4 o bobl ifanc i fod yn hyfforddeion yn y sefydliad ac i ddysgu o’u profiad a’u mewnwelediad presennol yn ogystal â chefnogi eu datblygiad cyflogaeth a’u camau ymlaen yn eu gyrfa.
Nid ydym wedi penodi Hyfforddai Gweinyddu na Hyfforddai Cyfathrebu hyd yn hyn. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cael profiad o weithio yn y sector elusennol, i sefydliad cyfeillgar ac arloesol, gan weithio gyda phlant a theuluoedd sy’n agored i niwed ledled Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Rydym yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig a threfnus sydd â sgiliau da ym meysydd gweinyddu, TG a chyfryngau cymdeithasol i gefnogi gwaith gwerthfawr y sefydliad.
Rhowch wybod i’ch goruchwyliwr Kickstart fod gennych ddiddordeb oherwydd rydym yn edrych ymlaen yn fawr i glywed gennych!