Jackie Murphy yn Ymddeol a Rhiannon Beaumont-Walker yn cymryd yr awenau

May 23, 2023

Hoffai TGP Cymru gyhoeddi y bydd Jackie Murphy, sef Prif Swyddog Gweithredol presennol TGP Cymru, yn ymddeol ar ddiwedd mis Mehefin 2023. Bydd llawer ohonoch yn gwybod bod Jackie wedi bod gyda’r sefydliad ers iddi gychwyn ym mis Ebrill 2002 a daeth yn Brif Swyddog Gweithredol yn 2013.

Dechreuodd Jackie ei gyrfa fel gweithiwr cymdeithasol preswyl i Forgannwg Ganol ac mae hi wedi bod yn ymgyrchydd dyfal dros Hawliau Plant drwy gydol ei gyrfa. Mae wedi hyrwyddo’r angen i eiriolwyr annibynnol ymweld yn rheolaidd â’r cartrefi plant niferus yng Nghymru, yn dilyn ymchwiliad Waterhouse yn 2000. Bu’n allweddol wrth helpu i sefydlu TGP Cymru ar ôl diddymu Cymdeithas y Plant yn 2002, gan y teimlwyd bod angen elusen plant yn y cartref ei hun ar Gymru a allai ymateb yn well i anghenion diwylliannol ac ieithyddol plant Cymru.

Bydd TGP Cymru a phawb sydd wedi cael y fraint o weithio gyda hi dros y blynyddoedd yn gweld colled fawr ar ôl Jackie.

Mae’n bleser gan TGP Cymru gyhoeddi y bydd Rhiannon Beaumont-Walker yn cymryd yr awenau fel Prif Swyddog Gweithredol. Mae Rhiannon wedi bod gyda TGP Cymru ers 2006, gan ymuno â’r sefydliad fel Arweinydd Tîm i ddechrau i ddatblygu Gwasanaeth Eirioli “Be Heard” yng Nghasnewydd. Symudodd Rhiannon ymlaen yn gyflym i fod yn Rheolwr Gwasanaeth a sefydlodd y Gwasanaeth Tîm o Amgylch y Teulu arloesol yng Nghaerdydd, sef gwasanaeth cymorth i deuluoedd a ategir gan egwyddorion ymgysylltu adferol. Yn fwy diweddar mae Rhiannon wedi ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth yn rheoli swyddogaethau cyllid ac AD y sefydliad.

Mae gan y bwrdd ymddiriedolwyr bob ffydd y bydd Rhiannon yn Brif Swyddog Gweithredol ardderchog, ac rydym yn siŵr y byddwch yn ymuno â ni i longyfarch Rhiannon ar ei phenodiad ac yn dymuno pob llwyddiant iddi wrth iddi arwain TGP Cymru yn y dyfodol.