Dychmygwch botensial Cymru fel Gwlad Noddfa wirioneddol

Jun 23, 2020

Ddydd Mercher 17 Mehefin 2020 fe wnaeth Dinas Noddfa DU a Rhwydwaith VOICES y Groes Goch Brydeinig gynnal digwyddiad ar-lein Noddfa mewn Gwleidyddiaeth ar gyfer Aelodau’r Senedd.

Fe wnaeth y digwyddiad edrych ar themâu ac amlygu materion sy’n bwysig i’r rhai hynny sy’n ceisio noddfa yng Nghymru, gan gynnwys addysg a chyflogadwyedd, gyda’r nod o roi cyfle i Aelodau’r Senedd glywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n arbenigwyr drwy brofiad.

Fe wnaeth Lee Evans, Rheolwr Datblygu Cenedlaethol Rhaglen Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches TGP Cymru, gefnogi aelodau o Fforwm Cyfranogiad Pobl Ifanc TGP Cymru i gymryd rhan. Fe wnaeth Chawan, sy’n 20 oed ac sy’n fyfyriwr coleg, a ddaeth i Gymru o Syria ac sydd wedi gweithio gyda TGP am 2 flynedd, roi cyflwyniad ar ei hymgyrch i helpu ei choleg i fod y Coleg Noddfa cyntaf yng Nghymru.