Gwesty’r Royal Caerdydd yn Rhoi Rhodd Hael

Mar 29, 2023

Aeth y Prif Swyddog Gweithredol Jackie Murphy i Westy’r Royal yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf i dderbyn arian a oedd wedi’i gasglu gan y gwesty. Gwnaeth Jackie gwrdd ag Eva, y rheolwr digwyddiadau, a gyflwynodd yn garedig swm hael o £931.63 a godwyd gan gwsmeriaid.

Mae gan TGP Cymru berthynas hirsefydlog gyda Gwesty’r Royal yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn ein cefnogi dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae staff Gwesty’r Royal Caerdydd yn gyfeillgar a bob amser yn garedig wrthym pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd.

Rydym yn hynod o ddiolchgar iddynt am eu rhodd hael, fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw. Diolch!