Ar 17 Hydref yn ein prif swyddfa, cynhaliwyd ein digwyddiad mwyaf i ddathlu ein pen-blwydd yn 20 oed. Hwn oedd ein digwyddiad mawr cyntaf ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd (SPARK), lle symudodd ein prif swyddfa iddo fis Mai eleni.
Yn bresennol
Roedd y digwyddiad yn rhan o ddathliadau ein pen-blwydd yn 20 oed. Yn bresennol roedd ymddiriedolwyr, partneriaid, staff a phobl ifanc.
Yn y llun uchod: Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr; Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol TGP Cymru; Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol; Theo o Sêr Saff Ceredigion; Diane Daniel, Cadeirydd Ymddiriedolwyr TGP Cymru.
Yn y llun uchod: Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol TGP Cymru; Lauren Kinsey, Ymddiriedolwr TGP Cymru; Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr; Rhiannon Beaumont-Walker, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymorth TGP Cymru.
Yn y llun uchod: Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol TGP Cymru, gyda Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru.
Ymddiriedolwr mwyaf newydd
Yn ystod y digwyddiad hefyd cyflwynwyd yr Ymddiriedolwr mwyaf newydd, Tania Ansel. Croeso i fwrdd yr ymddiriedolwyr!
Yn y llun uchod: Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol TGP Cymru; Tania Ansell, Ymddiriedolwr TGP Cymru
Cyflwyniad Theo
Siaradodd Theo o Sêr Saff Ceredigion yn y digwyddiad. Dangosodd fideo yr oedd wedi’i gynhyrchu am ei ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a’i gyfnod gyda TGP Cymru.
Yn y llun uchod: Theo, Sêr Saff Ceredigion, yn rhoi cyflwyniad ar ei amser gyda TGP Cymru.
Dathliad Staff
Gan ein bod yn ein prif swyddfa roedd hwn yn gyfle perffaith i lawer o arweinwyr tîm sy’n gweithio ledled Cymru ddathlu ein 20fed pen-blwydd gyda’n gilydd.
Yn y llun uchod: Zoe Morgan, Arweinydd Eiriolaeth Rhieni; Anna Collins, Arweinydd Eiriolaeth Rhieni Abertawe; Melanie Thomas-Wilcox, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu.
Yn y llun uchod: Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol; Kelly Davies, Arweinydd Dysgu a Datblygu; Anna Collins, Arweinydd Eiriolaeth Rhieni Abertawe; Rhiannon Beaumont-Walker, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymorth.