Yn TGP Cymru rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i ddarparu addysg sydd wedi’i deilwra’n benodol i’r safbwynt Cymreig ar hawliau plant, eiriolaeth a meysydd cysylltiedig. Mae ein swyddogaeth hyfforddiant wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym bellach yn gallu cynnig cyrsiau anffurfiol a chyrsiau achrededig sy’n cael eu datblygu a’u cyflwyno gan hyfforddwyr profiadol i fodloni eich gofynion penodol.
Mae ein cyrsiau yn defnyddio dysgu cyfunol i sicrhau y darperir ar gyfer yr holl arddulliau dysgu gan ymgorffori gwaith grŵp, myfyrio unigol, sesiynau tiwtorial, llyfrau gwaith a nifer o ddulliau eraill fel y bo’n briodol. Ein nod yw darparu hyfforddiant mewn dull anffurfiol, hamddenol heb symud y ffocws oddi ar ddeilliannau dysgu’r cwrs.
Mae ein holl gyrsiau achrededig yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio ein system e-bortffolio ‘Cynorthwyydd Dysgu’ sy’n lleihau’r defnydd o adnoddau papur ac yn lleihau’r angen i ddysgwyr a thiwtoriaid/aseswyr deithio yn fawr, gan gadw’r costau’n isel ar gyfer y cwsmer. Drwy ddefnyddio’r ‘Cynorthwyydd Dysgu’, gall dysgwyr dderbyn adborth a chymeradwyaeth ar eu gwaith ar unwaith a gall rheolwyr dderbyn diweddariadau rheolaidd ar gynnydd. Gan weithio gyda’r Tiwtor/Asesydd, gall y rheolwr a’r dysgwr gynnal cymhelliant a sicrhau bod cymorth ac arweiniad priodol ar gael ar bob lefel.
E-bostiwch [email protected] am fwy o fanylion.