Codi Arian

Sut allai gefnogi TGP Cymru?

  • Ymuno â Chlwb 100 TGP CymruTGP Cymru 100 Club
  • Gofyn i’ch cwmni ein dewis ni fer Elusen y Flwyddyn neu ein gwahodd i siarad gyda staff am ein gwaith
  • Cynnal eich digwyddiad codi arian eich hun fel ‘Te Parti TGP’, noson caws a gwin, cynnal parti cyfnewid dillad, golchi ceir y cwmni, ffair grefftau, disgo’r 60au (70au, 80au neu beth bynnag fo eich cyfnod!) neu unrhyw beth arall y gallwch feddwl amdano sy’n hwyl
  • Gwirfoddoli i fod yn gasglwr bwced yn un o’n casgliadau i’w cynnal dros y flwyddyn nesaf – efallai y gallwch wneud hyn gyda ffrindiau neu fel grŵp?
  • Gwirfoddoli i fod yn gydlynydd tun elusen yn eich ardal gan ofalu am  safleoedd lleol a gosod tuniau mewn tafarndai, siopau, canolfannau hamdden ac ati.
  • Enwebu TGP Cymru fel yr elusen i’w chefnogi yn eich archfarchnad leol lle mae ganddynt gynllun tocyn gwyrdd/glas
  • Cynnal noson cwis yn eich tafarn leol
  • Ymuno â’n ‘Clwb 100’ ac efallai ennill gwobr yn ein raffl fisol
  • Sefydlu rhodd fisol drwy reol sefydlog
  • Ymgymryd â digwyddiad chwaraeon a noddir i ni fel Hanner Marathon Caerdydd, her y 3 Chop, Felothon, Her Nofio Mawr Cymru neu unrhyw fath arall o her a noddir
  • Dod yn Llysgennad Cymunedol a siarad gyda grwpiau a sefydliadau lleol fel Merched y Wawr/Clwb Rotari ac ati am waith yr elusen
  • Sefydlu grŵp ‘Ffrindiau TGP Cymru’ a rhedeg eich digwyddiadau codi arian a gwybodaeth eich hun – ffordd wych o ddod ynghyd gyda ffrindiau a chyd-weithwyr tra’n helpu plant a theuluoedd Cymru sydd angen cymorth ychwanegol
  • Ystyried gadael ‘Rhodd mewn Ewyllys’ i ni a helpu cenedlaethau’r dyfodol
  • Rhoi rhodd gan ddefnyddio’r botwm Rhoi uchod

Cysylltwch â TGP Cymru i gael gwybod mwy am unrhyw un o’r uchod neu i rannu eich syniad codi arian eich hun!

[email protected] neu ffonio 02920 396974