Hoffech chi ymuno â’n Clwb 100 a bo yn enillydd lwcus yn ein raffl fisol tra’n cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru?
Mae’r Clwb yn agored i’n staff ac aelodau o’r teulu, ffrindiau, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr ac yn costio £3 y mis yn unig. Mae 40% o’r cyfanswm a godir bob mis yn cael ei dalu fel enillion ac mae’r gweddill yn mynd i helpu i gefnogi ein prosiectau.
Byddwch yn cadw’r un rhif am y flwyddyn – gallwch ddewis eich rhif eich hun o’r rhai sydd ar gael o hyd.
Bydd dau berson yn dewis yr enillydd ar yr 20fed o bob mis yn y Brif Swyddfa (os bydd hwn ar benwythnos neu wyliau banc bydd ar y diwrnod gwaith nesaf). Bydd y rhif/enw’ buddugol yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.
Os ydych am wybod mwy neu am ymuno, cysylltwch â [email protected]