Eiriolaeth – Rydym yn cynnig Gwasanaethau Eiriolaeth Proffesiynol i blant a phobl ifanc sy’n byw yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae eiriolaeth yn golygu cael rhywun i wrando arnoch chi. Gall eich helpu i ddweud beth rydych chi’n ei feddwl a sut rydych chi’n teimlo wrth y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am eich bywyd.
Mae ein gwasanaeth eiriolaeth yn annibynnol – nid ydym yn rhan o’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Ffoniwch ni ar y rhif isod neu anfon neges atom drwy’r e-bost (cyfeiriad isod hefyd).
Mae gennym ffurflenni atgyfeirio hawdd i’w defnyddio ar gyfer rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ac rydym yn derbyn atgyfeiriadau dros y ffôn hefyd.
Plant a phobl ifanc – gallwch ffonio’r rhif ffôn rhad ac am ddim (isod) a gofyn am eiriolwr – mae mor hawdd â hynny – dim angen unrhyw ffurflenni!
Efallai y byddwn ni hefyd yn gallu cynnig Gwasanaethau Ymweld Annibynnol i blant a phobl ifanc sydd yn derbyn gofal ac nad ydynt mewn unrhyw gysylltiad gyda’u teulu, neu sydd mewn cysylltiad cyfyngedig â’u teulu. Cysylltwch â ni ar rif y swyddfa isod am ragor o wybodaeth.
Rhif ffôn Abertawe: 01792 794044
E-bost: [email protected]
Rhif rhadffôn: 0800 328 7289
Neges testun: 07864 032 921