Cyngor, cefnogaeth ac eiriolaeth unigol a chymunedol yn gweithio gyda theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar faterion fel llety, safleoedd, cynllunio, hawliau a chael mynediad at wasanaethau. Rydym yn cynnal fforymau ieuenctid, cefnogaeth i riportio troseddau casineb a gwahaniaethu a gallwn gynnig hyfforddiant i wella gwasanaethau. Gwasanaeth arbenigol i gefnogi Dinasyddion yr UE o’r gymuned Roma i fod yn ymwybodol o’u hawliau o dan Brexit a gwneud cais am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Unrhyw unigolyn, plentyn neu oedolyn neu grŵp o’r gymuned Sipsiwn, Roma neu Deithwyr yng Nghymru.
Mae ein tîm yn gweithio ledled Cymru – rydym yn croesawu pob ymholiad gan y cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr neu gall ffrind/gweithiwr proffesiynol hefyd wneud ymholiad ar ran rhywun. Dylid cyfeirio pob ymholiad cychwynnol i’n rhadffôn neu e-bost a chewch eich neilltuo i aelod perthnasol o’r tîm.
Telephone: 01633 509 544
Email: [email protected]
Freephone number (if applicable): 0808 802 0025