Gwasanaethau Eiriolaeth TGP Cymru

Sut allwn ni helpu?

Mae TGP Cymru yn ddarparwr gwasanaethau eiriolaeth statudol cofrestredig. Yn unol â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gwnaeth TGP Cymru gais llwyddiannus i Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth wedi’u rheoleiddio. Mae hyn yn golygu bod Arolygiaeth Gofal Cymru yn fodlon bod TGP Cymru yn bodloni’r holl safonau darparu gwasanaeth fel y nodir yn Rheoliad 27 o’r Ddeddf.

Dyma ble yr ydym yn eirioli

Mae TGP Cymru yn darparu eiriolaeth statudol i dri rhanbarth yng Nghymru:

Gogledd Cymru
Ffôn: 01286 238 007
Rhadffôn: 0800 111 6880
[email protected]

Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ffôn: 01545 571865
Rhadffôn: 0808 1682599
[email protected]

Cwm Taf Morgannwg
Ffôn: 01443 805940
Rhadffôn: 0800 4703930
[email protected]

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

Mae Gwasanaeth Eiriolaeth TGP Cymru yn wasanaeth am ddim i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed ac sy’n

  • blentyn sy’n derbyn gofal,
  • plentyn nad yw’n derbyn gofal ond a allai fod ag anghenion gofal a chymorth;
  • plentyn sydd â Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig mewn grym
  • plentyn a fabwysiadwyd neu blentyn a gaiff o bosib ei fabwysiadu
  • unigolyn sy’n Gadael Gofal.

Beth yw eiriolaeth?

Eiriolaeth yw:

  • gwrando arnoch chi a’ch safbwynt chi
  • rhoi gwybod i chi am eich hawliau
  • eich helpu i ddweud eich barn a chael rhywun i wrando arnoch
  • eich helpu i ddatrys pethau gyda gweithwyr/gofalwyr
  • eich cefnogi a’ch helpu i ddweud eich dweud mewn cyfarfodydd
  • eich grymuso i eirioli drosoch eich hun.

Sut gallwn ni helpu?

Gallwn:

  • ich helpu i wneud cwyn
  • Eich helpu i ddweud eich barn am yr hyn y dymunwch ei gael
  • Eich helpu i ddweud eich barn, gydag eraill, ynghylch yr hyn sy’n dda neu’r hyn sydd angen ei newid ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal

Os hoffech chi wylio ffilm fer am eiriolaeth a sut y mae’n gallu helpu, cliciwch yma. Cafodd y ffilm hon ei gwneud gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc a chredwn ei bod yn egluro eiriolaeth yn dda iawn.

Os hoffech gael cymorth eiriolaeth ond nad ydych yn siŵr y gall TGP Cymru eich helpu, beth am fynd i www.whatisadvocacy.cymru. Gall y wefan hon ddweud wrthych pwy sy’n gallu darparu cymorth eiriolaeth i chi.

I gael rhagor o fanylion am eiriolaeth, gan gynnwys sut i atgyfeirio, ac unrhyw wasanaethau eraill sy’n gweithredu ym mhob un o’r pedwar rhanbarth, cliciwch ar enw’r rhanbarth perthnasol yn y tab Gwasanaethau.

Unigolyn Cyfrifol TGP Cymru yw Rhiannon Beaumont-Walker. Gallwch gysylltu â hi yma.

Rheolwr Cofrestredig TGP Cymru yw Sarah Durrant. Gallwch gysylltu â hi yma.

Darllenwch ein Datganiad o Ddiben cyfredol yma.

Darllenwch ein Canllaw Gwasanaeth llawn yma neu ein fersiwn fer yma.

Cewch afael ar ein hadroddiad arolygu diweddaraf yma.

Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych

Os oes gennych brofiad o’n gwasanaeth eirioli, naill ai fel person ifanc, rhiant, gofalwr neu weithiwr proffesiynol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych. Anfonwch eich sylwadau atom yma.