Mae Rhaglen Ffoadur a Lloches Lloches TGP Cymru yn cynnig dull cyfannol ar sail hawliau i gefnogi a grymuso pobl ifanc.
Rydym yn cynnig:
Cymhwysedd:
Prosiect 4 mlynedd a ariennir gan y Loteri Fawr, ar gyfer pobl ifanc yn ceisio lloches a ffoaduriaid 14-24 oed.
Nod Belong yw helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder a chadernid ac ymdrechu i fod “y gorau y gallant fod”, drwy gynnig mannau diogel i gwrdd, dysgu sgiliau newydd, ehangu gorwelion a chyfleoedd i ddeall ac ymgyfarwyddo â systemau a diwylliant yng Nghymru.
Rydym yn darparu camau pontio at gyfleoedd mwy cyffredinol ar gyfer pobl ifanc a’u cefnogi i gymryd rhan lawn.
Mae’n cynnwys:
Mae TGP Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau o’r sector ffoaduriaid gan gynnwys: WRC, Asylum Justice, DPIA, BAWSO ac EYST ar y Gwasanaeth newydd hwn a ariennir gan Grant Cynhwysiad Llywodraeth Cymru.
Rydym yn darparu:
Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn caniatáu i ni ategu’r amrywiaeth o sgiliau a phrofiad a ddatblygwyd yn ystod y Rhaglen Hawliau Ceiswyr Lloches 5 mlynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, gan gynnwys cefnogi pobl ifanc drwy Asesiadau Oedran.
Mae Gwasanaeth Ceiswyr Lloches Cymru ar gyfer ffoaduriaid gan gynnwys y rhai hynny sy’n cyrraedd yn rhan o Gynllun Adsefydlu a phobl ifanc o Hong Kong â Statws Gwladolyn Prydain (Tramor) yn ogystal â’r rhai hynny sy’n Ceisio Lloches.
Ar 12 Mai, cyhoeddodd y Loteri Fawr yng Nghymru y Partneriaethau llwyddiannus a fydd yn gweithio gyda phobl ifanc i gyd-gynhyrchu prosiectau i ddatblygu gwasanaethau i helpu i ddatblygu cadernid a gwrthsefyll problemau iechyd meddwl.
Mae Rhaglen Ffoadur a Lloches TGP Cymru wrth eu boddau i fod yn rhan o Bartneriaeth dan reolaeth Oasis Cardiff sy’n cynnwys Gwasanaeth Cynhwysiant Caerdydd a’r Fro.
Mae Rhaglen Ffoadur a Lloches TGP Cymru yn bartneriaid gyda Senedd Ieuenctid Cymru unwaith eto am ail dymor Senedd Ieuenctid Cymru 2022-24.
Yn ystod y tymor cyntaf, merch a oedd yn ffoadur oedd ein haelod o Senedd Ieuenctid Cymru a gyrhaeddodd Cymru yn rhan o’r Cynllun Adsefydlu o Syria. Gwnaeth Hasna fwynhau y profiad yn fawr a dywedodd ei fod wedi ei helpu i deimlo’n fwy hyderus.
Ar gyfer yr ail dymor mae gennym ddau aelod o’r Senedd: Sultan yn y de ac Amir yn y gogledd.
Mae Plant yng Nghymru – y sefydliad ambarél ar gyfer cyfranogi yng Nghymru – sy’n cynnal Bwrdd Prosiect Pobl Ifanc a Rhaglen Ffoadur a Lloches yn falch o gael safbwyntiau ein pobl ifanc wedi’u cynrychioli gan Elvis.
Hyfforddiant:
Gweithio gyda phlant ar eu pennau eu hunain sy’n ceisio lloches
Cysylltwch â Lee Evans i ymholi