Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn gofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol, o amrywiaeth o sectorau sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Yr wythnos hon, tro Mr Brian Evans, Pennaeth Ysgol Llwyn Yr Eos, Aberystwyth oedd hi. Rhan bwysig o’i rôl yw sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc sy’n mynychu Ysgol Llwyn Yr Eos yn ddiogel. Mae Brian eisoes wedi cefnogi’r grŵp Sêr Diogel gan gynnal Sioe Ffasiwn Incognito y llynedd, ac yn fwy diweddar, y Digwyddiad Meic Agored ar-lein a gynhaliwyd ar Zoom. Diolch Brian am gymryd rhan ac am gefnogi ein grŵp ☺
Brian yw’r 5ed gweithiwr proffesiynol i ymgymryd â Her Sêr Diogel #TGPQT yn cynrychioli’r sector addysg. Roedd ei atebion wedi cael argraff fawr ar y Sêr Diogel ac maen nhw’n meddwl y byddent yn cael argraff arnoch chi hefyd ☺ Gallwch edrych ar ei Her ‘Amser Holi’ yma a beth am roi cynnig arni eich hun!
Daliwch i wylio’r gofod hwn am y gweithiwr proffesiynol nesaf i ymgymryd â’r her ☺
Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion