Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn gofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol, o amrywiaeth o sectorau sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Yn ddiweddar, cyfarfu’r Sêr Diogel ar Zoom gyda Heather Whalley, Arweinydd Tîm Nyrsys Ysgol yng Ngheredigion. Mae Heather a’i thîm yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled sir Ceredigion yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn iach.
Heather yw’r bedwerydd gweithiwr proffesiynol i ymgymryd â Her Sêr Diogel #TGPQT yn cynrychioli’r sector iechyd. Diolch yn fawr iawn i Heather am gymryd rhan ☺
Edrychwch ar ei hatebion diddorol iawn ac yna ewch ati i ymgymryd â’r Her ‘Amser Holi yn Ystod y Cyfyngiadau’ eich hun!
Bydd y gweithiwr proffesiynol nesaf i ymgymryd â her y Sêr Diogel yn gynrychiolydd addysg o Geredigion, ni allwn aros i’w cyfarfod ☺
Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion