Gwasanaeth Pasportau Cyfathrebu Gogledd Cymru

Sut allwn ni helpu?

Pa wasanaethau sydd gennym i’w cynnig

Mae ein gwasanaeth, a ariennir gan The National Lottery Community Fund, yn rhoi Pasbortau Cyfathrebu a Phroffiliau Un Dudalen i blant a phobl ifanc ag anawsterau cyfathrebu.

Mae Pasportau Cyfathrebu yn ddogfennau cludadwy y plant sydd ag anawsterau cyfathrebu yn eu cario gyda nhw i lle bynnag y maen nhw’n mynd. Mae pasportau Cyfathrebu yn cynnig gwybodaeth hanfodol am blentyn neu berson ifanc i’r darllenydd, er mwyn galluogi cyfathrebu a dealltwriaeth. Gallant helpu pan fo plant yn dechrau neu’n newid ysgol, cael gofal seibiant, neu’n mynd i’r ysbyty.

Gweler ein taflen yma >

Ein meini prawf/lle rydym yn gweithio

Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod gael Pasbort Cyfathrebu, cysylltwch os ydych yn bodloni’r meini prawf canlynol:

  • Mae gennych anawsterau cyfathrebu
  • Ac yn 18 oed neu’n iau
  • Ac yn byw neu’n mynychu’r ysgol yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wynedd.

Ffyrdd o atgyfeirio

Gall rhieni, gofalwyr neu weithwyr proffesiynol atgyfeirio i’n gwasanaeth ar ran y plentyn/person ifanc.

Gallwch lawrlwytho ein ffurflen atgyfeirio yma:

Ffurflen atgyfeirio >

Anfonwch y ffurflen atgyfeirio wedi’i llenwi at:

[email protected]


Cyfeiriad Prosiect

Siambrau Victoria, 4 Stryd y Plas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RR

Ffyrdd o gysylltu â ni

Rhif Ffôn: 07494 023056 / 01286 238007
E-bost: [email protected]
Rhif rhadffôn: 0800 111 6880


Pwy sydd yn ein tîm

Julie Lloyd
Uwch Ymarferydd