Mae TGP Cymru yn elusen plant annibynnol flaenllaw yng Nghymru sy’n gweithio gyda rhai o’r plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf agored i niwed ac sydd fwyaf ar y cyrion yng Nghymru. Efallai eu bod yn profi anawsterau wrth geisio manteisio ar wasanaethau priodol ym meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol – mae’r rhain yn cynnwys plant gydag anableddau, plant gydag anghenion iechyd emosiynol a phlant sy’n ceisio lloches.
Mae Prif Swyddfa TGP Cymru yng Nghaerdydd ac mae ganddo brosiectau ledled Cymru yn cynnig cefnogaeth annibynnol a chyfrinachol i blant, pobl ifanc a theuluoedd drwy eiriolaeth, cyfranogiad, cwnsela, cyfarfodydd grŵp teulu, dulliau adferol a datrys gwrthdaro. Rydym hefyd yn cynnig cymorth eiriolaeth ar gyfer y rhai hynny sy’n profi problemau gydag iechyd a lles emosiynol a chynhyrchu pasportau cyfathrebu ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cyfathrebu. Rydym yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, gan roi llais iddynt ddweud eu dweud ar eu dyfodol a sicrhau fod eu hawliau’n cael eu parchu.