Ar hyn o bryd mae TGP Cymru yn chwilio am geisiadau gan bobl frwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl sydd â chefndir, gwybodaeth a phrofiad o Wasanaethau Plant Awdurdodau Lleol, Gofal Cymdeithasol, Cyfraith Teulu neu Reoli Risg. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â bwrdd sefydliad uchelgeisiol sy’n ymroddedig i sicrhau bod lleisiau unigolion yn cael eu clywed. Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o Gymru a phob rhan o’r gymuned ac rydym wrthi’n ceisio dod â mwy o amrywiaeth o brofiad i’n bwrdd, gan gynnwys ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.
Mae swyddogaeth Ymddiriedolwr yn gofyn am ymrwymiad amser cymedrol ac mae’n ddigyflog, er y gellir hawlio treuliau teithio. Mae cyfarfodydd ffurfiol y Bwrdd yn cael eu cynnal bob chwarter ar hyn o bryd. Bydd TGP Cymru yn gwneud cais am Ddatgeliad DBS ar ran darpar Aelodau’r Bwrdd Ymddiriedolwyr.
Os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol gyda Rhiannon Beaumont-Walker, Prif Swyddog Gweithredol neu aelod presennol o’r bwrdd, cysylltwch â’n Swyddog AD Jenny Cuthbertson ar [email protected]