Cyllid Newydd Gan Y Loteri Genedlaethol

Aug 30, 2024

Ar ôl cael y newyddion gwych yn ôl ym mis Rhagfyr 2023 gan Bwyllgor Cyllid y Loteri Genedlaethol, pan roddwyd tair blynedd o gyllid i Wasanaeth Pasbortau Cyfathrebu Gogledd Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi bod ein cyllid newydd wedi mynd yn fyw o 1 Mehefin.

Rydym wedi cael dechrau anhygoel a gallwn ni weld pa mor angenrheidiol yw’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’r plant a’r bobl ifanc sydd ag anawsterau cyfathrebu yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Gwynedd, gan ein bod eisoes wedi cael llawer iawn o atgyfeiriadau! Wrth edrych ymlaen at y dyfodol ac yn dibynnu ar sicrhau cyllid ychwanegol, rydym yn gobeithio ehangu ein gwasanaeth i gynnwys siroedd Wrecsam ac Ynys Môn hefyd.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’r Loteri Genedlaethol am ein helpu ni i barhau i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr  a mawr ei angen hwn.

 

Dyma’r ddolen i’n gwefan am fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth:
Gwasanaeth Pasbortau Cyfathrebu Gogledd Cymru « TGP Cymru