Diolch Yn Fawr Iawn I Sefydliad Moondance

Aug 30, 2024

Hoffai Gwasanaeth Pasbortau Cyfathrebu Gogledd Cymru ddiolch yn fawr iawn i Sefydliad Moondance am eu rhodd hael a sicrhaodd ein bod yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr a mawr ei angen hwn i blant a phobl ifanc Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Gwynedd.

 

Rhwng 1 Mehefin 2023 a 31 Mai 2024, gwnaethom lwyddo i gynhyrchu 30 o basbortau cyfathrebu newydd i blant a phobl ifanc ag anawsterau cyfathrebu, a heb gefnogaeth Sefydliad Moondance fydden ni ddim wedi gallu gwneud hynny. DIOLCH!

Dyma rywfaint o’r adborth a gafwyd gan rieni a gofalwyr, y mae eu plant wedi cael pasbort cyfathrebu trwy’r cyllid a roddwyd gan Sefydliad Moondance:

“Gall fod yn anodd iawn esbonio i bob person sut mae fy mhlentyn yn cyfathrebu, mae’r pasbort yn cael gwared ar y straen a’r gofid o esbonio i nifer o bobl ar lafar y trafferthion mae fy mab yn eu cael.”

“Os yw rhywun yn cwrdd ag ef am y tro cyntaf, mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddod i adnabod anghenion fy mhlentyn yn gyflym.”

“Mae ganddo’r holl wybodaeth gymhleth amdano mewn un man.”

“Mae’r gofalwyr yn ei adnabod yn well. Wrth siarad am bynciau penodol y mae ganddo ddiddordeb ynddyn nhw, bydd yn ymgysylltu’n well ac yn amlach.”

“Mae’n ymateb i bobl newydd yn well oherwydd eu bod nhw’n gwybod beth yw ei hoff ganeuon, teganau a bwydydd sy’n gwneud iddo deimlo’n fwy diogel.”

“Rwy’n credu ei fod yn wych a byddai pob plentyn ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig yn elwa ar gael un.”

“Ry’n ni’n ddiolchgar ein bod ni wedi’i gael.”

“Mae pawb rydw i wedi siarad â nhw wrth eu bodd ag ef. Mae e’ mor ddefnyddiol.”

“Mae’n wasanaeth gwych sydd wedi helpu fy merch yn aruthrol. Rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i helpu a chefnogi teuluoedd eraill.”

 

 

Dyma’r ddolen i’n gwefan am fwy o wybodaeth am ein gwasanaeth:
Gwasanaeth Pasbortau Cyfathrebu Gogledd Cymru « TGP Cymru