Yn ddiweddar, cynhaliodd y Tîm Eiriolaeth i Rieni ddiwrnod hyfforddi lle buon nhw’n trafod rôl ranbarthol Eiriolaeth i Rieni yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru a Chwm Taf Morgannwg, sef darparu eiriolaeth broffesiynol annibynnol i rieni sy’n ymwneud â’r maes amddiffyn plant.
Dyma’r tro cyntaf i’r tîm ddod at ei gilydd i gwrdd yn bersonol gan eu bod wedi’u lleoli mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru. Ar ôl ychydig o drafodaethau tîm a chynllunio fe gawson nhw fwyd gyda’i gilydd yn y Moody Cow yn Aberaeron – blasus!
Mae’r tîm yn llawn cyffro ac yn angerddol iawn am sicrhau bod Eiriolaeth i Rieni ar gael i gynifer o rieni cymwys â phosibl.
Dyma’n tîm Eiriolaeth i Rieni: Ruth, Pam, Emma, Ellen, Anne, a rheolwr y tîm, Zoe, gyda’n Cyfarwyddwr Gwasanaethau Eiriolaeth, Sarah.