Nodau cyffredinol Eiriolaeth Rhieni yw:
Mae eiriolaeth rhieni yn rhoi llais a dewis i rieni, drwy gefnogi rhieni i lywio’r system amddiffyn plant, ac i gymryd rhan lawn ym mhrosesau gwneud penderfyniadau.
Eiriolwyr Rhieni
Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Rhieni TGP Cymru, yn wasanaeth rhad ac am ddim sy’n cefnogi rhieni sydd â phlentyn/plant dan 18 oed, ym maes amddiffyn plant.
Rydyn wedi sefydlu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a Chwm Taf Morgannwg. Os ydych chi’n byw yn un o’r ardaloedd hyn, os oes gennych chi blentyn neu blant dan 18 oed sy’n cael eu cefnogi gan y gwasanaethau amddiffyn plant, ac yn credu y gallech chi gael budd o gymorth eiriolaeth rhieni, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth:
Gogledd Cymru
Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd a Wrecsam
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Sir Gâr, Ceredigion, Pembrokeshire a Phowys
Cwm Taf Morgannwg
Pen-y-Bont ar Ogwr, Merthyr Tydful, Rhondda Cynon Taff
Ebost: [email protected]
Os oes gennych brofiad o’n gwasanaeth eiriolaeth rhieni, naill ai’n rhiant, gofalwr neu weithiwr proffesiynol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Anfonwch eich adborth yma.