Y Tîm Cyn-filwyr a Gwasanaethau i Deuluoedd yn mynd i Fighting With Pride

Feb 3, 2023

Wythnos diwethaf aeth rheolwr y tîm Dulliau Adferol Cyn-filwyr a Gwasanaethau i Deuluoedd, Tina Foster, i ddigwyddiad a gynhaliwyd gan Fighting With Pride.

Mae Fighting With Pride yn sefydliad sy’n ymroi i gefnogi iechyd a llesiant cyn-filwyr a phersonél gwasanaethau LHBT+ a’u teuluoedd – gyda phwyslais penodol ar y rhai hynny y gwnaeth y gwaharddiad ar bersonél LHBT+ effeithio arnynt cyn Ionawr 2000.

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghaerdydd a’r bwriad oedd lledaenu ymwybyddiaeth o LHBT+ o fewn y gymuned cyn-filwyr.

Yn y prynhawn, ymunodd Kelly Davies, Swyddog Dysgu a Datblygu â Tina i gynnal digwyddiad partneriaeth ar ran Adferiad Recovery ar eu rhaglen Lleoedd, Llwybrau a Phobl i Gyn-filwyr. Mae gan y tîm Cyn-filwyr a Gwasanaethau i Deuluoedd hanes hir o gydweithio gydag Adferiad Recovery ac roeddynt wrth eu bodd i gynnal digwyddiad arall ar eu rhan.