Yma yn y prosiect Sgiliau yng Nghasnewydd gwnaethom ni benderfynu cynnal sesiwn grŵp ar gyfer ein pobl ifanc i’w helpu i fod â mwy o hyder wrth gwrdd â phobl newydd ac ymuno yn y gymdeithas eto. Ar ôl cael llawer iawn o adborth, mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o bobl ifanc wedi cael trafferth ag ef ers dechrau pandemig COVID-19.
Wedi gweithio’n agos gyda’n pobl ifanc yn Sgiliau, roeddem yn credu y byddai prynhawn o fowlio yn Friars Walk Casnewydd yn ffordd wych o ddod â phawb at ei gilydd i gael hwyl.
Ar ôl wythnosau o gynllunio, daeth y tîm Sgiliau â’n pobl ifanc at ei gilydd yn The Place yng Nghasnewydd lle gwnaethom setlo gyda diod boeth (siocled poeth o Greggs) cyn mynd i fowlio. Cafodd pawb 2 gêm o fowlio yr un, bwyd mewn blwch a diod ffrwythau di-derfyn a thaleb 2 am 1 ar gyfer y tro nesaf y byddan nhw’n ymweld. Roedd cyfanswm o 4 aelod o staff , gweithiwr cymorth arall a 6 o’n pobl ifanc yno. Roedd y dydd yn llwyddiant mawr, ac roedd yn wych gweld pawb yn dod ymlaen mor dda ac yn cael hwyl.
Gwnaethom chwarae dwy gêm o fowlio a chael cinio yn y lleoliad cyn mynd yn ôl i The Place i wneud ychydig o grefft Nadoligaidd, cardiau Nadolig a dynion sinsir Nadoligaidd gydag eisin a melysion mân.
Tuag at ddiwedd y sesiwn, gofynnom i’n pobl ifanc am adborth ar y prosiect Sgiliau a sut y mae wedi eu helpu nhw. Cawsom lawer o sylwadau ganddyn nhw ac mae pob un o’n pobl ifanc wedi mwynhau dod i’r prosiect Sgiliau yn fawr. Ers Sgiliau maen nhw wedi cymryd rhan yn dda o fewn y prosiect ac yn gobeithio y bydd yn parhau yn y dyfodol.
Mae hi wedi bod yn wych eu gweld yn datblygu, yn ffynnu ac yn tyfu mewn hyder yma yn Sgiliau.