Mae Llysgennad Sêr Saff Ceredigion, Theo, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen am ei amser yn ein prif swyddfa yn dathlu ein pen-blwydd yn 20.
Gan ddechrau gyda sinematograffi prydferth yr ardal o gwmpas, daw Theo â ni i mewn i adeilad SPARK i wylio ei gyflwyniad, ac yna ceir cyfweliadau yn trafod y digwyddiad.
Mae’r bobl a gyfwelwyd yn cynnwys: Diane Daniel, Cadeirydd Ymddiriedolwyr TGP Cymru, Jackie Murphy, Prif Swyddog Gweithredol TGP Cymru; Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr; Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.