Llysgennad Sêr Saff Ceredigion yn Derbyn Gwobr Celfyddydau Creadigol
Hoffem longyfarch Theo Delahaye am dderbyn Gwobr Cyflawniad Rhagorol yn y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, yn Theatr Ffwrnes yn Llanelli yn ddiweddar.
Mae Theo yn aelod o Fwrdd Diogelu Iau Ceredigion, neu Sêr Saff Ceredigion. Cenhadaeth y Sêr Saff fu codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch i bobl ifanc, drwy leisiau pobl ifanc. Mae Theo wedi parhau i ymgorffori’r neges hon yn ei waith y tu allan i’r Sêr Saff drwy gynhyrchu gwaith celf â negeseuon pwysig am iechyd meddwl a lles.
Da iawn Theo! Mae Sêr Saff Ceredigion a TGP Cymru yn hynod falch o’i gyflawniadau parhaus.