Mae Sêr Saff Ceredigion yn parhau i hybu a chodi ymwybyddiaeth o iechyd a lles plant a phobl ifanc.
Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl maen nhw wedi creu ‘Cardiau Gorbryder’ sy’n dangos awgrymiadau defnyddiol ar gyfer unrhyw blant a phobl ifanc a allai fod yn teimlo’n orbryderus mewn cyfnod anodd.
Mae’r Sêr Staff yn credu bod iechyd meddwl yn fater eithriadol o bwysig y mae angen mynd i’r afael ag ef, yn enwedig wrth gynorthwyo plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.