Sesiwn Ffitrwydd Ar-lein Sêr Saff Ceredigion – Rhan 1

May 10, 2021

Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion (Sêr Saff) yn gwybod pa mor bwysig yw iechyd a lles i blant a phobl ifanc, yn enwedig yn y cyfnod hwn. Mae’r Sêr Saff wedi ymuno â’r Hyfforddwr Personol Jack Davies i gyflwyno fideo ffitrwydd  cynhwysol i bawb, edrychwch arno isod

Felly beth am roi cynnig ar sesiwn ffitrwydd iechyd a lles yr wythnos hon a’n helpu ni gyda Her Wythnosol Jack! Does dim pwysau arnoch chi i wneud hynny ond os byddwch chi’n rhoi cynnig arni, rydym yn gwybod y bydd yn gwneud i chi deimlo’n  anhygoel. Cadwch lygad allan am Ran 2 o’r sesiynau ffitrwydd a fydd yn dod yn fuan.