Mae Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion, y Sêr Diogel, yn parhau i ofyn cwestiynau i nifer o weithwyr proffesiynol sydd â’u rôl i ddiogelu plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Yr wythnos hon cyfarfu’r Sêr Diogel ar Zoom gyda Delme Rees, Arolygydd Heddlu Dyfed Powys. Mae Delme wedi bod yn gweithio gyda’r heddlu ers dros 20 mlynedd a’i rôl yw sicrhau bod pawb sy’n byw ledled Ceredigion yn ddiogel.
Delme yw’r drydydd gweithiwr proffesiynol i ymgymryd â’r ‘Her Amser Holi’ ac rydym yn credu y byddwch yn cytuno ei fod wedi cynnig atebion gwych. Cymrwch gip ar ei atebion, beth ydych chi’n ei feddwl a pham na wnewch chi ymgymryd â’r her #TGPQT eich hun!
Bydd gweithiwr proffesiynol arall yn ymgymryd â’r her y Sêr Diogel yn fuan felly daliwch ati i wylio’r gofod hwn ☺
Bwrdd Diogelu Iau Ceredigion