Mae’r Gwasanaeth Cyfarfodydd Grŵp Teulu gan ddefnyddio Dulliau Adferol ar gael i deuluoedd sy’n profi gwrthdaro ac sydd angen cefnogaeth i ddatrys y gwrthdaro hwnnw. Mae’r gwasanaeth hwn yn helpu teuluoedd i ddod dros trafferthion drwy adeiladu, cynnal a lle bo’r angen, trwsio perthnasau. Bydd aelodau teulu yn cael eu hannog i adnabod eu cryfderau, eu sgiliau ac adnoddau er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau.
O fewn cyfarfod grŵp teulu, gan ddefnyddio dulliau adferol, bydd aelodau o deuluoedd, ffrindiau ac unrhyw un perthnasol yn dod at ei gilydd i drafod a gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd yr Ymarferydd yn gweithio gyda chi er mwyn eich cefnogi chi. Byddan nhw hefyd yn eich helpu chi i baratoi ar gyfer y cyfarfod a chyrraedd yno.
Gallwch chi gael mynediad i’n gwasanaeth os oes gan eich plentyn/person ifanc Weithiwr Cymdeithasol ei hun o fewn Gwasanaethau Plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion neu Sir Benfro ac os ydych chi yn profi trafferthion teuluol ac angen cynllunio ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi drafod y posibilrwydd o gael eich cyfeirio gyda’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu gysylltu gyda ni i weld a yw’r cyfeiriad yn briodol.
I bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd â phrofiad o’n gwasanaeth Cyfarfod Grŵp Teulu, y Grŵp Cwrdd â’n Gilydd i Aelodau Teulu yw eich cyfle chi i ddylanwadu ar ein gwasanaeth. Gallwch gymryd rhan drwy gyfweld staff a gwirfoddolwyr, a rhannu eich barn.
Gallwch fynd i’r grŵp yn lleol neu ar-lein. I gymryd rhan, cysylltwch â ni ar 0330 236 7001 neu anfonwch e-bost i [email protected]
Rhif ffôn: 0330 236 7001
E-bost: [email protected]