Mae Tîm o Amgylch y Denantiaeth ar gyfer pobl ifanc sy’n cael trafferthion gyda’u cartref a / neu nad oes ganddynt gartref. Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl ifanc i oresgyn y trafferthion rheiny a’u helpu i aros yn eu cartref a / neu sicrhau lle i alw’n gartref. Mae’r gwasanaeth yn helpu pobl ifanc trwy adeiladu, cynnal ac unioni perthnasau lle bo angen. Mae hyn hefyd yn helpu i atal unigrwydd yn y gymuned. Bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i nodi eu cryfderau, eu sgiliau a’u hadnoddau i wneud newidiadau cadarnhaol gyda’u Hymarferydd ac i ddatblygu eu Cynllun Gweithredu eu hunain. Mae’r bobl ifanc yn arwain ar yr hyn maent eu hangen gennym ni fel gwasanaeth, ac rydym yn darparu gwasanaeth unigryw i bob unigolyn sydd yn cael mynediad at y gwasanaeth.
Mae Cynllun Gweithredu Tîm o Amgylch y Denantiaeth yn deillio o gyfarfod Tîm o Amgylch y Denantiaeth lle mae’r person ifanc, pobl bwysig yn eu bywydau a gweithwyr proffesiynol yn dod at ei gilydd i nodi’r camau angenrheidiol sydd angen eu cymryd i helpu’r person ifanc i sicrhau a chynnal sefydlogrwydd a chynyddu eu rhwydwaith o gefnogaeth ar gyfer y dyfodol.
Gall pobl ifanc rhwng 16-25 mlwydd oed ar ledled Gogledd Cymru fanteisio ar y gwasanaeth hwn os ydyn nhw:
Rhif ffôn: 01492 550170
Ebost: [email protected]