Roedd TGP Cymru yn falch i gynnal ein Dathliad 10fed Pen-blwydd “Eat Carrots be safe from Elephants” ac roeddem mor falch bod y Comisiynydd Plant Sally Holland wedi mynychu ynghyd â Diane ac Emma, ymddiriedolwyr o TGP Cymru.
Cafodd y 15 o bobl ifanc wnaeth fynychu y cyfle i ofyn cwestiynau i Sally a chawsant eu hannog i nodi unrhyw faterion eraill o bryder yr oeddent eisiau eu rhannu.
Roedd y bobl ifanc yn dod o ledled Powys gan gynnwys Llandrindod, Rhaeadr Gwy ac Aberhonddu.