Cynhaliwyd seibiant preswyl diweddar yng Nghanolfan Cwm Elan ger Rhaeadr Gwy. Diben Cadw yw rhoi cyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd i drafod diogelu a materion yn ymwneud â diogelu.
Cynhaliwyd dau weithgaredd i archwilio ffiniau a diogelwch drwy’r ganolfan. Fel y dengys ffotograffau, un o’r rhain oedd saethyddiaeth a oedd yn llawer o hwyl.
Treuliwyd gweddill yr amser ar themâu parhaus a drafodwyd o’r blaen yng nghyfarfodydd Cadw.
Mynychodd pobl ifanc o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys. Ar yr achlysur hwn nid oedd Sir Benfro yn gallu mynychu.